Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Warren County |
Gwlad | UDA |
Arwynebedd | 114 km² |
Uwch y môr | 97 metr |
Cyfesurynnau | 43.6222°N 73.5467°W |
Hyd | 52 cilometr |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Adirondack |
Mae Llyn George yn llyn ym Mynyddoedd Adirondack yn Nhalaith Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau, rhwng dyffrynnoedd Afon Hudson ac Afon St Lawrence, a rhwng Albany, yn nhalaith Efrog Newydd, a Montréal, Canada. Mae’r llyn tua 32 milltir o hyd, rhwng 1 a 3 milltir o led, gyda dyfnder o 187 troedfedd.[1] Mae dŵr y llyn yn mynd i Afon La Chute ac wedyn i Lyn Champlain, cyn ymuno ag Afon St Lawrence. Dwfnder mwyaf y llyn yw 196 troedfedd. Mae sawl bae, gan gynnwys Bae Basin, Bae Kattskill, Bae Northwest, Bae Onieda a Bae Silver. Mae dros 170 o ynysoedd, 148 ohonynt yn eiddo i’r dalaith. Mae trwyddedau gwersylla ar gael ar gyfer y mwyafrif. Ystyrir pen gogleddol y llyn i fod yn rhan o ddyfryn Champlain, sy’n cynnwys Llyn Champlain ac hefyd Plattsburgh a Burlington, Vermont.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search